Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 16 Rhagfyr 2021
Amser:
14.02 -
16.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12693
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Russell George AS John Griffiths AS Llyr Gruffydd AS Jenny Rathbone AS Jack Sargeant AS James Evans AS |
Tystion: |
Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Judith Paget, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Aled ap Neill (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Bozo Lugonja (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd, David Rees AS, yr Aelodau a'r tystion i'r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies AS; daeth James Evans AS yn ei le. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau buddiant.
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd fod y cyhoedd wedi’u gwahardd o gyfarfod y Pwyllgor at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd.
2 Adferiad ar ôl COVID-19 a phwysau'r gaeaf ar wasanaethau cyhoeddus
Holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog ar bolisiau yn ymwneud ag yr adferiad ar ôl COVID-19 a phwysau’r gaeaf ar wasanaethau cyhoeddus.
3 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Materion amserol
Gofynnodd Aelodau gwestiynau ar faterion amserol i’r Prif Weinidog.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Derbyniwyd y cynnig.
5 Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y cyfarfod blaenorol.